Buy me a coffee

https://ko-fi.com/joeshooman

Thursday, 7 August 2025

Yr Wladfa

Performance here


Clywais i am rhywle

O’r enw Yr Wladfa

Lle mae pobl yn hapus

Nac erioed teimlo'n boenus


Yn yr Wladfa

Mae gafr yna yn ddawnsio ar y fynydd

Ac mae Jarman newydd wedi gyrraedd

Mae o’n sgwennu ganeuon efo Astor Piazolla

Creu steil newydd o reggae a tango

A mae pawb eisiau gwrando


Yn yr Wladfa

Lle maer defaid yn dwyiethog Gymraeg a Sbaeneg

Mae 'na croeso siml yna a pawb yn pwysig

Yr gwynt moelus yn chwarae efo lleisiau melys

Does ‘na dim straen, dim rhaid a brysia nunlle


Yn yr Wladfa

Mae na pobl werthfawr yna yn gwenu yn yr heulwent

A pawb dan ni wedi golli dros yr blynyddoedd

Fydd pob un ohonyn nhw yna

I Oz, a Jonny, a Jon, a Dave, a Daz, a Duncan, a Daniel -

o, Daniel -

Fyddwn ni siarad eto


Un diwrnod

Yn yr Wladfa

Arhoswch yna

Yn fuan fydd hi’n amser

I finna deithio yna

I’r Wladfa


Yn yr Wladfa

Fydd pawb yna

Lle mae gariad

Byth yn marw

Yn yr Wladfa

Fydd pawb yna

Dwi bron yn deithio

Wela chi gyd yna

Dwi newydd wedi dechrau

Deithio yna

Yn yr Wladfa

Yn yr Wladfa




No comments:

Post a Comment